Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

6 Chwefror 2017

SL(5)050 – Rheoliadau Rhent-daliadau (Pris Adbrynu) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r fformiwla i’w defnyddio wrth gyfrifo pris adbrynu rhent-daliadau a rhenti eraill yng Nghymru. Mae’r fformiwla, sydd i’w defnyddio yn Neddf Rhent-daliadau 1977, yn defnyddio cyfradd log “dros 30 ond nid dros 30.5 mlynedd” gyhoeddedig y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol, i bennu’r elfen a geir. Mae hyn yn disodli’r Stoc Cyfunol (gilt) o 2½ % a ddefnyddiwyd yn y fformiwla a gynhwyswyd yn flaenorol yn Neddf 1977, ond a alwyd ac a adbrynwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi yn 2015.

Deddf Wreiddiol: Deddf Rhent-daliadau 1977

Fe’u gwnaed ar: 16 Ionawr 2017

Fe'u gosodwyd ar:19 Ionawr 2017

Yn dod i rym ar: 10 Chwefror 2017

SL(5)053 – Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau yn gwneud mân ddiwygiadau i’r dosbarthau a ragnodir gan Reoliad 4 (Dosbarth A) a Rheoliad 5 (Dosbarth B) Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998. Maent yn addasu’r geiriad i egluro bod y dosbarthau hynny yn cynnwys anheddau lle nad oes preswylydd a bod yr anheddau wedi eu dodrefnu i raddau helaeth.

Deddf Wreiddiol: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992

Fe’u gwnaed ar: 23 Ionawr 2017

Fe'u gosodwyd ar:25 Ionawr 2017

Yn dod i rym ar: 15 Chwefror 2017

SL(5)055 – Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002.

Mae’r diwygiadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer hysbysu am farwolaeth plentyn sy’n cael ei letya mewn cartref plant diogel. Yn benodol, mae’n ofynnol i’r person cofrestredig hysbysu Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth Cymru a Lloegr (“yr OCPh”) os bydd unrhyw blentyn sy’n cael ei letya mewn cartref plant diogel yn marw.

Mae’r diwygiadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i berson cofrestredig cartref plant diogel ganiatáu i’r OCPh ymchwilio i’r farwolaeth.

Deddf Wreiddiol: Deddf Safonau Gofal 2000

Fe’u gwnaed ar: 24 Ionawr 2017

Fe'u gosodwyd ar:26 Ionawr 2017

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2017

SL(5)058 – Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Ardal) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae adran 14A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol lunio a chyhoeddi cynllun ar ôl cynnal asesiad o anghenion o dan adran 14 o Ddeddf 2014 (a adwaenir fel “asesiad poblogaeth”). Rhaid i’r cynllun hwn (a adwaenir fel “cynllun ardal”) nodi, ymhlith pethau eraill, ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r corff yn bwriadu eu darparu, neu drefnu iddynt gael eu darparu, mewn ymateb i’r asesiad poblogaeth.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau ardal, gan gynnwys pennu pa bryd y mae cynllun ardal i gael ei gyhoeddi (rheoliad 2), adolygu a diwygio cynlluniau ardal (rheoliad 3), personau y dylid darparu copïau o’r cynlluniau ardal iddynt (rheoliad 4), cymryd camau i ymgysylltu â dinasyddion, sefydliadau’r sector preifat a’r trydydd sector a chyrff cyhoeddus wrth lunio cynlluniau ardal (rheoliadau 5 a 6) a monitro a gwerthuso cynlluniau ardal (rheoliad 7).

Mae’r Rheoliadau yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sut y mae pob un o’r rheoliadau i fod yn gymwys os yw awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu arfer pwerau o dan adran 14A(4) neu (5) o Ddeddf 2014 i lunio a chyhoeddi cynllun ardal ar y cyd.

Deddf Wreiddiol: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Fe’u gwnaed ar: 24 Ionawr 2017

Fe'u gosodwyd ar:27 Ionawr 2017

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2017